Marchnata Cymru Wales yn ennill gwobr ryngwladol yng Ngwobrau Cyfryngau’r Byd
Mae tîm marchnata Cymru Wales wedi ennill dwy wobr fawreddog yng Ngwobrau Cyfryngau’r Byd (07/09/2023). Roedd y gwobrau'n cydnabod darpariaeth ryngwladol mynd â 'Cymru i'r Byd' yng Nghwpan y Byd FIFA 2022. Daw'r gwobrau wedi i Lywodraeth Cymru a phartneriaid ddod at ei gilydd o dan ymbarél Tîm Cymru.