Roedd y gwobrau’n cael eu beirniadu'n annibynnol gan banel o’r diwydiant, mae Grŵp Cyfryngau’r Byd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Newyddion y BBC, The Economist, Forbes, National Geographic, The New York Times, Reuters a The Wall Street Journal. Enillodd Cymru Wales y categori 'Teithio a Thwristiaeth' yn erbyn prif gyrchfannau rhyngwladol: Abu Dhabi, Llundain a Manitoba, Canada.

Ac yn goron ar y cyfan, enillodd yr ymgyrch y Grand Prix cyffredinol ac 'Enillydd yr Enillwyr', gan guro brandiau rhyngwladol mawr gan gynnwys Adidas, Audi, Visa a Volkswagen.

Meddai Belinda Barker, Prif Weithredwr, Grŵp Cyfryngau’r Byd:

"Er bod safon ein holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn drawiadol, roedd y beirniaid yn gytûn fod 'Cymru i'r Byd' yn crynhoi'r hyn sydd wrth wraidd ethos Gwobrau Cyfryngau’r Byd. Mae'n dangos go iawn sut y gall ymgyrch rymus sy'n cael ei gyrru gan gynnwys mewn amgylchedd cyfryngau priodol ddod â stori yn fyw heb gyfaddawdu ar ddilysrwydd.”

“Cafwyd campwaith gan Lywodraeth Cymru, gan ddod â gwahanol ddiwylliannau a gwerthoedd at ei gilydd mewn ymgyrch integredig sy'n arddangos Cymru fel cenedl flaengar gyda chymaint i'w gynnig. Allwn ni ddim aros i ddod acw!”

Croeso. Fideo ymgyrch Cymru Wales.

Roedd yr ymgyrch yn ymdrech ar y cyd rhwng nifer o bartneriaid, gyda Llywodraeth Cymru wrth wraidd sefydlu ‘Tîm Cymru’ am y tro cyntaf, oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, sefydliadau, asiantaethau, partneriaid trydydd sector a’r gymuned llawr gwlad – i gyd yn dod at ei gilydd i hyrwyddo Cymru o dan yr un brand.

Meddai Heledd Owen, Cyfarwyddwyr Marchnata, Cymru Wales:

"Rydyn ni wrth ein bodd i dderbyn y Grand Prix eleni am 'Cymru i'r Byd'. Gwobr nid yn unig i'n tîm ond i'r holl dimau ar draws ein sefydliad a phartneriaid allanol ledled Cymru. Mae cael ein cydnabod ar y lefel hon yn arwydd arall eto o lwyddiant ein dull strategol a megis dechrau yw hyn i’n strategaeth hirdymor i godi proffil Cymru yn rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at rannu mwy o straeon o galon ein cenedl yn y bennod nesaf."

Dangosodd yr ymgyrch ‘Cymru i’r Byd’ frand Cymru Wales, sef brand rhyngwladol Llywodraeth Cymru, i’r byd – ac roedd yr ymgyrch yn cynnwys ffilmiau yn dangos y gwir Gymru; partneriaeth rhwng 24 o sefydliadau; digwyddiad Cymru i Broadway yn Efrog Newydd oedd yn cynnwys sêr Hollywood pherchnogion CPD Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney; Het Fwced enfawr yng nghanol Doha; a chyhoeddusrwydd yn y wasg dros y byd yn cael ei arwain gan lysgennad yr ymgyrch, yr Athro Laura McAllister.

World Media Awards - Cymru Wales Grand Prix Table

Wrth drafod yr ymgyrch, meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru: “Roedd hon yn bartneriaeth lwyr ac wrth wraidd y gwaith oedd ymgyrch Llywodraeth Cymru. Fe lwyddon i roi llais i Gymru ar lwyfan y byd – gan adlewyrchu ein gwerthoedd; ein hiaith; ein cerddoriaeth; ein hetiau bwced – a phopeth yn y canol. Ni enillodd bencampwriaeth Cwpan y Byd oddi ar y cae.”

Rhan o’r ymgyrch oedd penodi llysgenhadon tactegol er mwyn helpu i ledaenu’r neges am werthoedd Cymru i’r byd. Roedd yr Athro Laura McAllister a Colin Jackson ymysg ‘Lleisiau Cymru’ – y lleisiau a deithiodd i Qatar i hyrwyddo a dod â gwerthoedd Cymru yn fyw ar y llwyfan rhyngwladol yn ystod y twrnament.

Meddai’r Athro Laura McAllister, Is-Lywydd UEFA: “Pwy fyddai wedi dychmygu y byddai cenedl fach o dair miliwn o bobl yn cael cymaint o argraff yn ein Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 o flynyddoedd?”

Rhannu'r dudalen hon